Meinir Ann
Enw Llawn: Meinir Ann Thomas
Dyddiad Geni: 17eg Mai 1982
Man Geni: Caerfyrddin
Teulu: Unig blentyn Eric a Mary Thomas
Addysg: Ysgol Gynradd Peniel; Ysgol Bro Myrddin; Ysgol Maes Yr Yrfa; Prifysgol Cymru Bangor.
Diddordebau: Canu, actio, cyflwyno, cyfieithu, darllen, cerdded, coginio, gwylio DVDs.
Cas Bethau: Cŵn, cathod, corynod, winwns a gyrwyr araf!
Hoff raglenni teledu: "Pobol y Cwm"; "Tipyn O Stad"; "Coronation Street"; "Friends"; "Sex And The City"; "Bewitched".
Hoff Gerddoriaeth: Ryland Teifi, Geraint Roberts, Cwmni Theatr Maldwyn (wrth gwrs!), Leona Lewis, Donny Osmond, Il Divo a Britney Spears.
Hoff liw: Pinc golau
Hoff fwyd: Duck Tikka Massala gyda reis plaen a peshwari naan; hwyaden mewn saws oren.
Hoff fwytai: Gwesty Pen y Baedd, Caerfyrddin; Spice UK, Y Trallwng; Quayside brasserie, Caerfyrddin.
Hoff lyfr: 'Penbleth Dynol Ryw' gan Ralph Koning
(cyfieithiad gan Alun Ceri Jones), "Innocent Traitor" gan Alison Weir a
"The Boleyn Inheritance" gan Phillipa Gregory.
Fy rhaglen: Rhaglen gylchgrawn sy'n cael ei ddarlledu
o 1-4 y prynhawn o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae'r slot swyddi,
digwyddiadau lleol a'r siop fach ar fy rhaglen yn ddyddiol. Rwy'n
chwarae amrywiaeth o gerddoriaeth Cymraeg ac yn siarad a nifer o
westeion am amryw o bynciau sy'n cynnwys adroddiadau o'r Eisteddfodau,
meddyginiaeth, ffasiwn, coginio a thafodieithoedd. Bydd cystadlaethau'n
cael eu cynnal yn ddyddiol hefyd.
Cysylltu: I gysylltu a mi, danfonwch e-bost at
meinirann@radioceredigion.net. Hefyd, medrwch alw heibio i
www.myspace.com/meinirann




