Radio Ceredigion FM Tel:(01970) 627 999 Fax: (01970) 627206
Email: admin@radioceredigion.net



Gwrandawiad Byw!

English
Advertise with Radio Ceredigion!

Mark Simon 

Mark SimonGwrandewch ar raglen Drivetime gyda Mark Simon o 4 tan 8 o ddydd Llun i ddydd Gwener.  Gyda cherddoriaeth gwych, y newyddion diweddaraf o siart HIT 40 UK, newyddion lleol a'r holl wybodaeth sydd angen arnoch chi i gyrraedd adre'n ddiogel, gan gynnwys y newyddion traffig diweddaraf a'r tywydd.  Bydd Mark hefyd yn taro golwg ar Slot Swyddi Radio Ceredigion a'r digwyddiadau lleol.  Bydd Mark hefyd yn cynnal dwy gystadleuaeth gyda gwobrau arbennig bob dydd!  Yn arolwg barn Merry Media 2007, daeth y rhaglen i'r brig fel y rhaglen drivetime gorau yng Nghymru.  Mae Mark yn siwr o wneud eich taith adref yn un hwyliog, llawn gwybodaeth.  Beth mwy allech chi ofyn amdano??  A'r cyfan mewn 4 awr!

Bydd Mark hefyd yn edrych ar flwyddyn arbennig o 1970 i'r flwyddyn bresennol yn ystod awr ola'r rhaglen.  Bydd e'n chwarae caneuon o'r flwyddyn dan sylw, ac yn rhoi ychydig o ffeithiau ichi am y flwyddyn yna.  Does dim gwobrau, dim ond ychydig o hwyl.