Radio Ceredigion FM Tel:(01970) 627 999 Fax: (01970) 627206
Email: admin@ceredigionfm.co.uk



Listen Live!
Baner


Baner
Home Gwerthiant
Gwerthiant a Hysbysebu

Croeso i Dudalen Gwybodaeth Masnachol Radio Ceredigion.

Oeddech chi’n gwybod - mae pobl yn treulio mwy o amser yn gwrando ar y radio nag unrhyw gyfrwng arall?
Yn y cartref - wrth ymlacio - ar wyliau - yn y gwaith - yn y car - yn y siopau

Mae Radio Ceredigion allan yno NAWR.... Yn siarad eich iaith CHI.... Yn cyrraedd miloedd o wrandawyr ar hyd arfordir Gorllewin Cymru.... trwy gydol y dydd a’r nos. POB DIWRNOD O’R WYTHNOS!


Os ydych chi am godi ymwybyddiaeth brand neu hyrwyddo cynnyrch, medrwn ni yn Radio Ceredigion greu pecyn hysbysebu am bris cystadleuol.

Bydd ein hadran gwerthiant yn gweithio’n galed i greu ymgyrch hysbysebu effeithiol yn ôl gofynion penodol eich busnes chi.

Noddi ar Radio Ceredigion
Mae pawb yn dweud taw cymeradwyaeth yw’r ffurf orau o hysbysebu, a dyna sut mae nawdd radio’n gweithio. Mae’n rhoi’r cyfle i hysbysebwyr drosglwyddo eu neges “tu fewn i adran olygyddol” yr orsaf radio, ac felly’n lleihau’r siawns o fethu hysbyseb.


Mae Radio Ceredigion yn cynnig amryw o gyfleoedd hysbysebu, gan gynnwys cyfweliadau, rhaglenni pwrpasol a chyfleoedd ar-lein. Bydd ein hadran gwerthiant yn cyd-weithio â chi i ddarganfod yr hyn sydd orau i’ch amcanion busnes.

Radio Ceredigion ar-lein
Y we yw’r cyfrwng hysbysebu sy’n tyfu fwyaf, ac mae ymchwil yn dangos ei fod yn cyd-fynd yn dda gyda hysbysebu radio ar ein gwefan llewyrchus.

Am ragor o fanylion ynglŷn â phob agwedd o hysbysebu a noddi, rhowch alwad i 01970 627999 neu e-bostiwch Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. This e-mail address is being protected from spambots, you need JavaScript enabled to view it