Mae’r ffeil gyhoeddus hon yn cynnwys manylion am yr elfennau mae Ofcom yn rheoleiddio, megis traciau cerddoriaeth, newyddion lleol, eitemau o ddiddordeb lleol ayb. Y bwriad yw rhoi gwell dealltwriaeth i chi o’n cynnyrch a’r hyn rydyn ni’n gwneud i’r gymuned leol.
1. Amserlen Bwletinau Newyddion
Mae Radio Ceredigion yn darlledu bwletinau newyddion ar yr awr o 6yb tan 12yb saith diwrnod yr wythnos.
Mae bwletinau o 6yb tan 9yb a 4yp tan 12yb yn y Saesneg.Mae bwletinau newyddion rhwng 9yb a 3yp yn y Gymraeg ac fe geir rhaglen materion cyfoes lleol dyddiol rhwng 12yp ac 1yp gyda phenawdau’r newyddion am 12.30yp.
Dydd Sadwrn: Bwletin newyddion Saesneg ar yr awr rhwng 6yb a 9yb, rhwng 1yp a 2yp a rhwng 6yh a 12yb. Bwletinau newyddion Cymraeg rhwng 10yb a 12yp.
Dydd Sul: Newyddion Saesneg ar yr awr rhwng 6yb ac 8yb a rhwng 7yh a 12yb.
Mae’r bwletinau’n cynnwys cymysgedd o straeon lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ynghyd â chwaraeon a’r tywydd.
2. Straeon a Drafodwyd ar yr Awyr yn Ddiweddar:
-Cynghorwyr Aberteifi'n croesawu'r newydd y gallai The Original Factory Shop brynu safle hen siop Woolworths y dref. -Pum tafarn yng Nghymru’n cau bob wythnos. -Y gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghyrmu y agor sganer MRI newydd yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. -Cyngor Ceredigion yn lansio menter newydd i wella'r cymorth i'r rhai sy'n gweithio ac yn gofalu am rai gwael eu iechyd.
Mae pob stori a ddarlledir yn cael ei chynhyrchu’n fewnol yn Radio Ceredigion.
3. Yr Adran Newyddion
Ceryl Davies Ffôn. 01970 627 999 Neu e-bostiwch
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
4. Amserlen
I weld copi o’n hamserlen ddiweddaraf CLICIWCH YMA
5. Rhaglenni Awtomataidd
10 awr rhwng 8yh a 6yb o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 6 awr rhwng 12yb a 6yb ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.
6. Rhestr Chwarae’r Orsaf
I weld y rhestr chwarae ddiweddaraf CLICIWCH YMA
7. Fformat yr Orsaf
I weld fformat yr orsaf: CLICIWCH YMA
8. Sut i wneud cwyn
Os oes ganddoch chi gwyn i’w wneud ynglŷn â’r orsaf hon, yn y lle cyntaf, fe ddylech gysylltu â rheolwr yr orsaf yn y cyfeiriad isod. Os ydych chi’n anhapus â’r ymateb rydych chi wedi ei dderbyn, medrwch gwyno’n uniongyrchol i’r rheolydd, Ofcom. Am ragor o fanylion, ewch i: http://www.ofcom.org.uk.
9. Manylion Cyswllt yr Orsaf
Rheolwr yr Orsaf Radio Ceredigion yw Eifion Williams a’n cyfeiriad yw:
Radio Ceredigion, Yr Hen Ysgol Gymraeg, Ffordd Alexandra, Aberystwyth, Ceredigion, SY25 1LF
Ffôn: 01970 627 999
http://www.radioceredigion.net
10. Canllawiau Lleolrwydd Ofcom
Mae Ofcom, rheoleiddiwr y diwydiant cyfathrebu sydd â chyfrifoldebau dros radio lleol, wedi cynhyrchu canllawiau lleolrwydd y mae’r orsaf hon yn glynu wrth.I weld y manylion yn llawn, ewch i: http://www.ofcom.org.uk/radio/ifi/rbl/car/localness/
11. Ymdriniaeth neu Gefnogaeth o Ddigwyddiadau/Elusennau
Mae Radio Ceredigion yn ymroddedig i roi cyhoeddusrwydd i elusennau a sefydliadau lleol trwy ddarparu cyhoeddiadau dyddiol trwy gydol y dydd yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Elusennau mae Radio Ceredigion wedi eu cefnogi:
Ffagl Gobaith Cyngor yr Henoed Ceredigion Cyngor yr Henoed Gwynedd Nyrsys McMillan Ysbyty Bronglais, Aberystwyth Apêl Arch Noa Cymdeithas Lymffoma
|