Enw Llawn: Meinir Ann Thomas
Dyddiad Geni: 17eg Mai 1982
Man Geni: Caerfyrddin
Teulu: Unig blentyn Eric a Mary Thomas
Addysg: Ysgol Gynradd Peniel; Ysgol Bro Myrddin; Ysgol Maes Yr Yrfa; Prifysgol Cymru Bangor.
Diddordebau: Canu, actio, cyflwyno, cyfieithu, darllen, cerdded, coginio, gwylio DVDs.
Cas Bethau: Cŵn, cathod, corynod, winwns, pys a gyrwyr araf!
Hoff raglenni teledu: "Pobol y Cwm"; "The Tudors"; "Family Guy"; "Coronation Street"; "Friends"; "Sex And The City"; "Bewitched". Hoff Gerddoriaeth: Ryland Teifi, Geraint Roberts, Cwmni Theatr Maldwyn, Boyzone, Enrique Iglesias, Leona Lewis, Donny Osmond, Il Divo a Britney Spears.
Hoff liw: Pinc golau
Hoff fwyd: Duck Tikka Massala gyda reis plaen a peshwari naan; hwyaden mewn saws oren.
Hoff fwytai: Gwesty Pen y Baedd, Caerfyrddin a'r Black Boy, Caernarfon.
Hoff lyfrau: 'Hogan Horni' gan Menna Medi, 'Penbleth Dynol Ryw' gan Ralph Koning (cyfieithiad gan Alun Ceri Jones), "Innocent Traitor" a "The Lady Elizabeth" gan Alison Weir a "The Boleyn Inheritance" gan Phillipa Gregory.
Fy rhaglen: Rhaglen gylchgrawn sy'n cael ei ddarlledu o 1-4 y prynhawn o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae'r slot swyddi, digwyddiadau lleol a'r siop fach ar fy rhaglen yn ddyddiol. Rwy'n chwarae amrywiaeth o gerddoriaeth Cymraeg ac yn siarad a nifer o westeion am amryw o bynciau sy'n cynnwys adroddiadau o'r Eisteddfodau, meddyginiaeth, ffasiwn, coginio a thafodieithoedd. Bydd cystadlaethau'n cael eu cynnal yn ddyddiol hefyd. Ym mis Medi 2009, bydd eitem wythnos newydd sbon yn cychwyn ar fy rhaglen lle fyddwn ni'n edrych ar yr hanes tu ôl i enwau llefydd. Os ydych chi'n gwybod yr hanes enw'ch pentref neu tref chi, neu unrhyw bentref neu dref yng Nghymru, yna cysylltwch â mi.
Cysylltu: I gysylltu a mi, danfonwch e-bost at
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
, neu trwy lythyr at Radio Ceredigion, Yr Hen Ysgol Gymraeg, Ffordd Alexandra, Aberytwyth, Ceredigion, SY23 1LF. Ymunwch â grŵp Facebook y rhaglen! http://www.facebook.com/home.php#/group.php?gid=138957184525&ref=ts
|