Rysait yr Wythnos
Mair Coginio
Mae gwreiddiau Mair Jones yn ddwfn yng nghefn gwlad Ceredigion.
Cafodd ei chodi a'i magu ar fferm Brynchwyth, Llangwyryfon.
Heb symud ymhell o'r cartref gwreiddiol, llwyr ymunodd Mair
â'r gymuned leol drwy fynychu dosbarthiadau Clybiau Ffermwyr
Ifainc a Sefydliad y Merched. Yno y dysgodd, y gwrandawodd ac y
sylwodd ar wahanol ryseitiau ac fe'u haddasodd i'r ford Gymreig.
Ers 1994, mae Mair wedi rhoi gwasanaeth fyddlon i wrandawyr Radio
Ceredigion bob wythnos a medrwch glywed glywed ei llais a dychmygu ei
gwên ar raglen Meinir Ann am 2:45 bob prynhawn dydd Mercher.
Jam Riwbob a Sinsir
Cynhwysion
3 pwys o riwbob
3 pwys o siwgr
Sudd a chroen 3 lemwn
1 owns o wreiddyn sinsir
Dull
Sychwch y riwbob a'i dorri'n ddarnau.
Rhowch mewn bowlen, a gwasgarwch y siwgr drosto.
Ychwanegwch sudd a chroen y lemwn.
Gadewch i aros dros nos.
Trannoeth, rhowch yn y sosban.
Rhowch y sinsir mewn mwslin a'i ychwanegu i'r sosban.
Dewch ag ef i'r berw a'i ferwi'n gyflym tan yn barod.
Rhowch mewn jariau glân a chynnes a'u selio.




